Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Chwefror 2021
------
Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan i ben. Bydd y Pwyllgor o'r Senedd Gyfan yn cychwyn am 13.00
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")
(30 munud)
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Gweithio mewn Partneriaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru
(30 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Papur Gwyn Ailgydbwyso Gofal a Chymorth
(30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(30 munud)
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021
NDM7590 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
NDM7589 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7588 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2021.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
10 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022
(90 munud)
NDM7586 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Gohebiaeth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu:
Llythyr at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Llythyr at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn pandemig COVID-19.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.
11 Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a’r Rhaglen Ddeddfwriaethol
(60 munud)
NDM7587 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):
Yn nodi:
a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020;
b) y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2020
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod ymdrechion yr holl weision cyhoeddus a'r cyhoedd i fynd i'r afael â COVID-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn rhoi diolch iddynt am yr ymdrechion hynny.
Gwelliant 2 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun adfer cenedlaethol, yn enwedig o ystyried y posibilrwydd y gallai 3,500 o bobl golli allan ar driniaeth canser yng Nghymru.
Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymhellach y diffyg uchelgais yn y rhaglen ddeddfwriaethol, yn enwedig yr oedi o ran cyflwyno Deddf aer glân i Gymru cyn diwedd tymor y Senedd, er bod cefnogaeth drawsbleidiol ar ei chyfer.
12 Cyfnod Pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.00, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2021